У нас вы можете посмотреть бесплатно Bro Myrddin Blwyddyn 7 Gwersyll yr Urdd 2011 Gwersyll Llangrannog @yggbm или скачать в максимальном доступном качестве, видео которое было загружено на ютуб. Для загрузки выберите вариант из формы ниже:
Если кнопки скачивания не
загрузились
НАЖМИТЕ ЗДЕСЬ или обновите страницу
Если возникают проблемы со скачиванием видео, пожалуйста напишите в поддержку по адресу внизу
страницы.
Спасибо за использование сервиса ClipSaver.ru
Bro Myrddin - Blwyddyn 7 Gwersyll yr Urdd 2011 Llangrannog Year 7 pupils at Llangrannog Urdd Camp 2011 Bu dros gant ac ugain o ddisgyblion Blwyddyn 7, eu tiwtoriaid dosbarth a swyddogion o blith disgyblion blwyddyn 13 yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog yn ddiweddar. Dechreuodd eu taith o safle bysiau'r ysgol am ddeg o'r gloch y bore, Dydd Mercher y 14eg o Fedi. Roedd yr haul yn tywynnu ac roedd pawb yn llawn cynnwrf yn barod am eu hymweliad â'r gwersyll. Bu'r diwrnodau'n llawn gweithgareddau o fore gwyn tan nos. Bu'r disgyblion yn rhan o amryw o weithgarddau gan gynnwys sgïo, marchogaeth, nofio, gwibgartio, gweithgarddau adeiladu tim a thrampolinio. Braf oedd cael cyfle i gael tro ar y gweithgareddau newydd, sef y wal ddringo a'r cwrs rhaffau uchel -- deg allan o ddeg am y gweithgareddau hynny yn sicr. Roedd hwn yn gyfle heb ei ail i nifer fanteisio ar y cyfle i geisio ar sgiliau newydd. Blasus iawn oedd y prydiau bwyd yn ôl yr arfer, a holl staff y gwersyll yn gwneud yn siŵr bod pawb yn teimlo'n gartrefol. Cafwyd nosweithiau llawn dop a oedd yn cynnwys twmpath, cwis, gemau, cystadleuaeth adloniant ac wrth gwrs disgo ar y noson olaf. Cyflwynwyd eitem gan bob dosbarth yn y gystadleuaeth adloniant o ganu mewn côr i gyflwyno sgets. Beirniad anrhydeddus y gystadleuaeth hon oedd ein Prifathro, Mr. Williams a ymgymerodd gyda'r dasg anodd o enwi'r grŵp buddugol. Llongyfarchiadau i ddosbarth 7 - 3 a enillodd gyda'i sgets ar y thema - Sioe Talentau. Braf hefyd oedd gweld y staff a disgyblion Bl.13 yn ymuno ym mwrlwm y disgo ar y noson olaf. Bu'n gyfnod gwerthfawr i Flwyddyn 7 ddod i adnabod ei gilydd ynghyd ag athrawon ac aelodau o'r Chweched. "Unwaith eto eleni" meddai Miss Hammond, pennaeth blwyddyn 7 "cawsom dridiau hapus iawn yn ystod y cwrs pontio a braf oedd cael y cyfle i ddechrau dod i adnabod y disgyblion newydd. Mae'n amlwg bod y disgyblion yn griw brwdfrydig ac edrychwn ymlaen fel staff i'w gweld, yn ystod y flwyddyn, yn mwynhau ym mwrlwm eu hysgol newydd." Bore ddydd Gwener ddaeth yn rhy gyflym a rhaid oedd troi am adre, glanhau'r ystafelloedd, casglu'r dillad oddi ar y llawr a phacio'r bagiau. Roedd blinder i'w weld ar wynebau pawb ar ôl dyddiau di stop o fwrlwm ac roedd pawb bellach yn edrych ymlaen am noson gynnar o gwsg. Hoffai disgyblion Blwyddyn 7 ddiolch yn arbennig i Miss Hammond, Pennaeth blwyddyn 7 am drefnu'r daith ac i staff a chriw disgyblion Bl.13 am wneud eu hamser yn Llangrannog yn un hwylus a bythgofiadwy.