У нас вы можете посмотреть бесплатно Candelas gyda Nest Llewelyn - Y Gwylwyr или скачать в максимальном доступном качестве, видео которое было загружено на ютуб. Для загрузки выберите вариант из формы ниже:
Если кнопки скачивания не
загрузились
НАЖМИТЕ ЗДЕСЬ или обновите страницу
Если возникают проблемы со скачиванием видео, пожалуйста напишите в поддержку по адресу внизу
страницы.
Спасибо за использование сервиса ClipSaver.ru
Mae #Candelas wedi recordio fersiwn newydd o glasur #Brân or 1970'au, Y Gwylwyr ar y cyd gyda Nest Llewelyn or band. Mae'r trac yn rhan o gasgliad i ddathlu 10 mlwyddiant label #Ikaching. “Roedden ni’n arfer chware ‘Y Gwylwyr’ yn fyw yng nghyfnod ein halbwm cynta’ pan o’n i ar y dryms ac yn canu”, meddai Osian Huw, prif leisydd a gitarydd Candelas. “Ond ar y pryd, roedde ni’n teimlo fod y riff gitâr yn rhy eiconig i neb ryddhau cyfyr ohoni.” “Wedyn yn hwyr un noson yn stiwdio Sain, wrth recordio dwy o’n senglau diweddara’, daeth y gân i’r cof a dyma feddwl y bydde hi’n wych ar gyfer y casgliad yma, a chael Nest i ganu arni yn goron ar y cwbl.” “Ro’n i ffansi mynd nôl ar y drymiau fel yn yr hen ddyddiau, felly dyma ni’n gosod dau set o ddrymiau i wynebu ei gilydd, gosod meic ar bawb a’i recordio hi i gyd yn fyw mewn amser byr iawn. Y diwrnod canlynol, dyma ni’n cysylltu hefo Nest ac yn lwcus, roedd hi’n fwy na hapus i ganu ar y trac newydd. Ac fel y clywch i ar y sengl, mae ansawdd ei llais hi'r un mor berffaith ag erioed.” Actorion: Rhys Richards & Manon Alaw Cyfarwyddo: Eilir Pierce Cynhyrchu: Aled Wyn Jones Ffotograffiaeth: Andy Pritchard Cynorthwydd Camera: Sion Gwyn Gwasga'r botwm 'Subscribe' i gael gwybod am y fideos diweddara! Twitter - @Lwps4c Facebook - @Lwps4c Instagram - @Lwps4c