У нас вы можете посмотреть бесплатно CRiNC - PPC или скачать в максимальном доступном качестве, видео которое было загружено на ютуб. Для загрузки выберите вариант из формы ниже:
Если кнопки скачивания не
загрузились
НАЖМИТЕ ЗДЕСЬ или обновите страницу
Если возникают проблемы со скачиванием видео, пожалуйста напишите в поддержку по адресу внизу
страницы.
Спасибо за использование сервиса ClipSaver.ru
CRiNC - PPC “Welsh Republican Soviet Minimalist Punk Neo-Rave Post Mod Cyber Environmentally Toxic Industrial Basement Garage group Llyr Alun.” - Diffiniad amleiriog a phriodol ar gyfer band sy’n dwyn yr enw ‘CRINC’. Yn wir, mae’n anodd iawn ceisio diffinio’r band unigryw yma mewn ychydig eiriau. Y peth cyntaf sydd angen ei gymeradwyo ydi’r eofndra sy’n perthyn i’r gwaith - mae’n arbrofol drwy daflu’n ddi-baid bethau newydd i’r byd creadigol a hynny mewn ffordd a fydd yn sicr o ehangu gorwelion y Sîn Gerddorol Gymraeg ac ysgwyd ei chynulleidfa. Er fod yr enw ‘CRINC’ yn mynd â chi i rywle gweddol ‘wirion’, mae’r hyn sy’n cael ei drafod yn bwysig, a hawdd fyddai dweud eu bod yn fand gwleidyddol, sy’n cael gwefr o fynd yn ‘groes i’r graen’ a chwarae efo confensiwn a disgwyliadau’r gynulleidfa Gymraeg. Mae’r gân ar gyfer y fideo yma’n fyfyrdod ar ‘nepotiaeth, llosgach a chrachach’ meddai Llŷr - dipyn o lond ceg! Mae’r ‘dychan’ i’w weld yma’n glir nid yn unig yn natur dychannol y geiriau ond hefyd yn y cyfuniad chwareus a pharodïaidd yma sydd i’w weld yn y fideo, sy’n dwyn dylanwad dyddiau cynnar sioeau fel X-Factor a Britain's Got Talent. ‘CRINC’ yw’r smonach doeddech chi ddim yn gwbod eich bod chi eu hangen, ac os hoffech glywed mwy, mae’r albwm ‘Cig Cymreig’ ar gael i wrando arno. Cymysgu gan Dafydd Ieuan (Das Koolies/SFA) Peirianyddol gan Kris Jenkins Meistroli gan Hafod Mastering Wedi recordio yn y Buarth, Caerdydd Llun gan Garry Stuart Dylunio gan Blindspot Actorion: Llŷr Evans Becca Naiga Llŷr Alun Cynhyrchu, Cyfarwyddo a Golygu: Hedydd Ioan a Llŷr Alun DOP a Gwîr Olygu: Jamie Walker Rheoli Cynhyrchiad: Iona Rhys Uwch Gynhyrchu: Aled Wyn Jones Ymchwilydd: Buddug Roberts Gyda diolch i Clwb Criced Bethesda Geiriau/Lyrics: Croeso i Gymru lle ma’r Sîn ‘di sychu, Lle ma pawb yn perthyn, Ond sa neb yn Datblygu, Be ‘di point trio plesho pawb? Might as well chdi fyta dy gnawd! Be nath digwydd i PPC? Be nath digwydd i PPC? Llawn llosgach ac bwyta’n iach, Mond yn poeni am chwara hi’n saff, Be nath digwydd llosgi tai haf? Oh ia… Be nath digwydd i PPC? Be nath digwydd i PPC? Be nath digwydd? Be nath digwydd? Be nath digwydd i PPC? Be nath digwydd i PPC? Be nath digwydd i PPC? Deutha fi eto “Be nath digwydd i PPC?” Label cyhoeddi - Noddfa Cerddoriaeth newydd a diwylliant cyfoes Cymru 🏴 New Welsh music and contemporary culture 🏴 Gwasga'r botwm 'Subscribe' TikTok, Instagram, Twitter & Facebook - @Lwps4c