У нас вы можете посмотреть бесплатно Olwg gyntaf y tu mewn i ddatblygiad Canolfan Hamdden Newydd Castell-nedd или скачать в максимальном доступном качестве, видео которое было загружено на ютуб. Для загрузки выберите вариант из формы ниже:
Если кнопки скачивания не
загрузились
НАЖМИТЕ ЗДЕСЬ или обновите страницу
Если возникают проблемы со скачиванием видео, пожалуйста напишите в поддержку по адресу внизу
страницы.
Спасибо за использование сервиса ClipSaver.ru
Cymerwch gipolwg cyntaf ar ganolfan hamdden a llyfrgell newydd canol tref Castell-nedd, sy’n werth miliynau lawer o bunnoedd, ac sy’n agor cyn diwedd y mis. Mae gan y ganolfan hamdden, fydd yn agor ddydd Llun 30 Ionawr, bwll nofio chwe lôn, 25 metr o hyd, gyda phwll cysylltiedig i ddysgwyr, dwy stiwdio ymarfer ar gyfer grwpiau (fydd yn cynnig dros 20 dosbarth ymarfer gwahanol!) a champfa 100 lle, caffi a swît iechyd (ac ynddi jacuzzi, sawna ac ystafell stêm). Hefyd, bydd yno unedau manwerthu a chyfleusterau gofal plant dwyieithog yn agor yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Mae’r cynllun, a adeiladwyd gan y contractwyr Kier a benodwyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, wedi’i gynllunio i gael effaith fuddiol iawn ar ganol y dref, gan gynyddu cynaliadwyedd, hyfywedd ac ymweliadau â’r ardal, a rhoi hwb sylweddol i iechyd a llesiant. Mae’r cynllun yn cael ei ariannu’n rhannol gan gronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Bydd gan y llyfrgell newydd (sy’n agor ar y cyntaf o Chwefror 2023) yn cynnwys 30,000 o lyfrau, 16 cyfrifiadur cyhoeddus, wifi ymhobman, gan gynnwys argraffu dros wifi, llyfrgell benodedig i blant, Ardal ymchwilio hanes teulu a chasgliad astudiaethau lleol, dwy ystafell gyfarfod a chiosgs hunan-wasanaeth. Cofrestrwch gyda Celtic Leisure heddiw i gael pas mis am ddim, dim ffi ymuno – a chewch gwdyn gwdis am ddim: https://celticleisure.org/new-you-2023/ Dysgwch ragor am ein llyfrgelloedd: https://www.npt.gov.uk/libraries