У нас вы можете посмотреть бесплатно Sut i Ddarllen: Sioned Erin Hughes или скачать в максимальном доступном качестве, видео которое было загружено на ютуб. Для загрузки выберите вариант из формы ниже:
Если кнопки скачивания не
загрузились
НАЖМИТЕ ЗДЕСЬ или обновите страницу
Если возникают проблемы со скачиванием видео, пожалуйста напишите в поддержку по адресу внизу
страницы.
Спасибо за использование сервиса ClipSaver.ru
Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r bardd a'r awdur Sioned Erin Hughes. Daw Erin o Ben Llŷn. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Tregaron yn 2022 gyda'i chyfrol gyntaf i oedolion, Rhyngom (Y Lolfa). Hi oedd golygydd y gyfrol Byw yn fy Nghroen (Y Lolfa) a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2020, Iaith Heb Ffiniau (Carreg Gwalch) a chyd-olygydd Beyond/Tu Hwnt (Lucent Dreaming). Roedd ei chyfrol O'r Rhuddin (Y Lolfa) ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025, ac fe gyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o gerddi Fel y Moroedd y llynedd. Yn y bennod mae Erin yn trafod ei diffyg diddordeb mewn llyfrau yn blentyn, effaith a dylanwad sgwennu personol a hunangofiannau ar ei bywyd a'r angen i ddarllen gyda phensil yn ei llaw. Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Recordio sain: Aled Wyn Hughes Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog. Dyma’r llyfrau sy’n cael eu trafod yn y bennod hon James a'r Eirinen Wlanog Enfawr - Roald Dahl, addasiad Elin Meek Nab Wrc - Roald Dahl, addsiad Elin Meek Moddion Rhyfeddol George - Roald Dahl, addasiad Elin Meek Matilda – Roald Dahl, addasiad Elin Meek The Book Thief - Markus Zusak I Am, I Am, I Am: Seventeen Brushes With Death – Maggie O’Farrell The Choice - Edith Eger Casglu Llwch – Georgia Ruth Tell Me Who I Am - Georgia Ruth Camu – Iola Ynyr Nelan a Bo – Angharad Price The Bell Jar – Sylvia Path Reason To Stay Alive – Matt Haig A Thousand Splendid Suns - Khaled Hosseini The Kite Runner - Khaled Hosseini Lan Star – Anthony Shapland, addasiad Esyllt Lewis Devotions – Mary Oliver Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol.