У нас вы можете посмотреть бесплатно Iechyd Meddwl Pobl Ifanc или скачать в максимальном доступном качестве, видео которое было загружено на ютуб. Для загрузки выберите вариант из формы ниже:
Если кнопки скачивания не
загрузились
НАЖМИТЕ ЗДЕСЬ или обновите страницу
Если возникают проблемы со скачиванием видео, пожалуйста напишите в поддержку по адресу внизу
страницы.
Спасибо за использование сервиса ClipSaver.ru
Dyma bodlediad newydd sbon yn y gyfres o bodlediadau AM IECHYD. Bwriad y gyfres hon ydy rhoi platfform i drafod materion sy'n ymwneud ag iechyd a gofal a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn y podlediad hwn fe fyddwn yn trafod pwnc sy'n gynyddol ar y newyddion y dyddiau hyn sef iechyd meddwl pobl ifanc. Mae llawer o drafod ar y ffactorau sy'n gallu effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc a bwriad y podlediad hwn ydy agor cil y drws ar rai o'r ffactorau hynny. Yn cyfrannu at y drafodaeth mae Dr Mair Edwards (Seicolegydd Clinigol) yng nghwmni Donna Dixon (Darlithydd ac Ymchwilydd yn Ysgol Addysg), Dr Ceryl Davies (Darlithydd mewn Gwyddorau Iechyd) ac Anwen Rhys Jones (Swyddog Ymchwil Ysgol Addysg) o Brifysgol Bangor. Cadeirydd y drafodaeth ydy Rhian Tomos, darlithydd yn Ysgol Addysg Prifysgol Bangor. Mwynhewch y gwrando! Diolch i bob un o aelodau'r panel am fod yn barod i gyfrannu, i Aled Jones o gwmni Y Pod am y recordio a'r golygu a diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y nawdd i gynhyrchu'r gyfres o bodlediadau.