У нас вы можете посмотреть бесплатно Thallo - Pluo или скачать в максимальном доступном качестве, видео которое было загружено на ютуб. Для загрузки выберите вариант из формы ниже:
Если кнопки скачивания не
загрузились
НАЖМИТЕ ЗДЕСЬ или обновите страницу
Если возникают проблемы со скачиванием видео, пожалуйста напишите в поддержку по адресу внизу
страницы.
Спасибо за использование сервиса ClipSaver.ru
Ar ei sengl newydd Pluo, mae Thallo yn arddangos ei sain unigryw, un sy’n cydio, yn arallfydol, ac yn aml-offerynnol, yn gyfuniad o 'bedroom pop' a 'dream pop' gyda cyffyrddiadau o jazz cynnil ac elfennau clasurol cyfoes, sy’n creu naws synfyfyriol tra hefyd yn hollol swynol. “Casglu llwch sy'n pluo llonyddwch.” Wedi’i ysbrydoli gan effeithiau salwch sydyn a ddioddefodd Thallo yn 2020 a achosodd boen cronig yn ei phen-gliniau a phroblemau symudedd, mae Pluo yn cyffwrdd â’r boen ryfedd o wylio’r byd yn dychwelyd i normal ar ôl y clo, tra bod Thallo yn gaeth yn yr hyn y mae’n ei ddisgrifio fel “fy nghlo personol fy hun.” Dwedai Thallo “Roeddwn i'n teimlo mor sownd, yn methu â dychwelyd i fy mywyd normal. Ond yn bennaf oll, gwaedd o ofn yw’r gân am yr unigrwydd a’r anobaith o gael eich gadael ar ôl tra bod pawb arall yn symud ymlaen.” Mae’r fideo yn cael ei hysbrydoli gan y genre ffilm arswyd seicolegol ac wedi ei saethu yn y man hela ysbrydion poblogaidd Ysbyty Bron y Garth, cyn wyrcws/ysbyty o’r 1800au sydd bellach wedi’i adael yn wag ac wedi rhewi mewn amser. Eglurai Thallo “Mae’r lleoliad yn adlewyrchu geiriau Pluo o deimlo’n sownd ac yn dirywio.” Mae’r fideo’n gweld Thallo’n ffeindio’i hun yn deffro mewn bath llawn gwaed ar lawr yr ysbyty, yr hyn sy’n dilyn yw brwydr i ddianc o’r adeilad adfeiliedig, yn frith o ddelweddau iasol ac ôl-fflachiadau arswydus sy’n arwain at y syweddoliad at ddiwedd y fideo – bod Thallo mewn gwirionedd wedi marw ac yn gaeth mewn purdan. Cynhyrchu a Chyfarwyddo - Aled Wyn Jones Cyfarwyddo, DOP a Golygu - Andy Pritchard Celf - Jamie Walker Gyda diolch i Andy Smallbone a Virginia Chuck - Ysbyty Bron Y Garth Geiriau/Lyrics: Casglu llwch sy’n pluo llonyddwch Fel diwrnod diddiwedd Fel diwrnod diddiwedd yn dal i ddod Arhosa fan hyn Dwi methu symud o’r unfan di-ddim Dwi methu symud o’r unfan Mor rhyfedd gwylio dy hun yn dirywio Fel diwrnod diddiwedd Fel diwrnod diddiwedd yn dal i ddod Arhosa fan hyn Dwi methu symud o’r unfan di-ddim Arhosa fan hyn Dwi methu symud o’r unfan di-ddim Arhosa fan hyn Dwi methu symud o’r unfan di-ddim (Casglu llwch sy’n pluo llonyddwch fel diwrnod diddiwedd, fel diwrnod diddiwedd yn dal i ddod) Pluo lyrics (English translation): I gather dust which is feathering stillness like an endless day, like an endless day that keeps coming Stay here I can’t move from this useless spot I can’t move from this spot So strange watching yourself deteriorate like an endless day, like an endless day that keeps coming Stay here I can’t move from this useless spot Stay here I can’t move from this useless spot I can’t move from this spot Stay here I can’t move from this useless spot I can’t move from this spot (I gather dust which is feathering stillness like an endless day, like an endless day that keeps coming) Recordiau Côsh Records www.rcoshr.com Cerddoriaeth newydd a diwylliant cyfoes Cymru 🏴 New Welsh music and contemporary culture 🏴 Gwasga'r botwm 'Subscribe' TikTok, Instagram, Twitter & Facebook - @Lwps4c