У нас вы можете посмотреть бесплатно Sut i Ddarllen: Huw Stephens или скачать в максимальном доступном качестве, видео которое было загружено на ютуб. Для загрузки выберите вариант из формы ниже:
Если кнопки скачивания не
загрузились
НАЖМИТЕ ЗДЕСЬ или обновите страницу
Если возникают проблемы со скачиванием видео, пожалуйста напишите в поддержку по адресу внизу
страницы.
Спасибо за использование сервиса ClipSaver.ru
Yr awdur a’r darlledwr Huw Stephens sy’n cadw cwmni i Francesca Sciarrillo yn y bennod hon o Sut i Ddarllen. Mae Huw Stephens yn darlledu’n ddyddiol ar BBC Radio 6 Music, ac yn cynnal sioeau wythnosol yn y Gymraeg a Saesneg ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru. Fe sefydlodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig a Gŵyl Sŵn Caerdydd. Ef hefyd yw awdur y gyfrol, Wales - 100 Records. Yn y bennod mae Huw yn sgwrsio am gyfieithu The Twits yn blentyn, ei hoff nofel Gymraeg yn y byd i gyd a’i gyfraniad i’r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru. Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Recordio sain: Aled Wyn Hughes Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Teddy’s Place, Caerdydd. Dyma’r llyfrau sy’n cael eu trafod yn y bennod hon Y Dyn’i Hun – Hywel Gwynfryn The Twits – Roald Dahl Boy – Roald Dahl Paid a Bod Ofn – Non Parry All the Best for the Future: Growing Up Without Growing Old – Greg James Is-Deitla'n Unig - Emyr Glyn Williams Diolch Dewi! Ffrindiau'n Cofio – Gol. Myrddin ap Dafydd Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru – Gol. Meic Stephens A Room Above A Shop - Anthony Shapland Bechgyn Drwg am Byth – Llwyd Owen Cam o’r Tywyllwch – Rhys Mwyn Atgofion drwy Ganeuon: Dyddie Da - Delwyn Siôn Atgofion drwy Ganeuon: Rhwng Bethlehem a'r Groes - Barry (Archie) Jones Atgofion drwy Ganeuon: Llechan yn y Gwaed – Gai Toms Cerddi’r Ystrad – Lyn Ebenezer Lladd Arth – Kayley Roberts Of Mice and Men – John Steinbeck Y Tŵr – Gwenlyn Parry Zonia Bowen - Dy Bobl Di Fydd fy Mhobl I - Zonia Bowen Oedolyn (ish) – Melanie Owen Cylchgrawn Folding Rock O Ffrwyth y Gangen Hon – Gol. Nia Morais Gwlad Bardd – Rhys Iorwerth O! Tyn y Gorchudd – Angharad Price The Life of Rebecca Jones – Angharad Price, cyfieithiad Lloyd Jones Nelan a Bo – Angharad Price Yr Odliadur – Roy Stephens Salem a Fi – Endaf Emlyn Ffansins: Caws Heb Dost, Siarc Marw, Brechdan Tywod, Tacsi, Viva Sparky, Klust Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol.