У нас вы можете посмотреть бесплатно RainScape Abertawe или скачать в максимальном доступном качестве, видео которое было загружено на ютуб. Для загрузки выберите вариант из формы ниже:
Если кнопки скачивания не
загрузились
НАЖМИТЕ ЗДЕСЬ или обновите страницу
Если возникают проблемы со скачиванием видео, пожалуйста напишите в поддержку по адресу внизу
страницы.
Спасибо за использование сервиса ClipSaver.ru
Y tu allan i Ysgol Gynradd San Helen yn Abertawe, mae darn o ffordd sy’n dueddol o ddioddef llifogydd wedi cael ei drawsnewid yn ardal fywiog, llawn natur lle mae dŵr glaw yn llifo’n fwy effeithlon, lle mae bywyd gwyllt yn ffynnu, a theuluoedd yn cael amser gwerthfawr i ymlacio gyda’i gilydd. Mae RainScape Abertawe yn brosiect dan arweiniad y gymuned sydd wedi ail-ddychmygu sut mae mannau trefol yn mynd i'r afael â llifogydd, yn hybu bioamrywiaeth ac yn cefnogi teithio llesol. Gyda 12 gardd law, pyst cynefin i wenyn, elfennau chwareus, a phalmant athraidd, mae'n ardal sydd wedi'i chynllunio ar gyfer cerdded, beicio ac mae’n rhoi gwên ar wynebau bob dydd. Mae'r prosiect yn gynllun ar gyfer cymunedau sy'n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd ledled Cymru a thu hwnt. Cyflwynwyd y prosiect hwn gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Abertawe, Urban Foundry a chymuned Sandfields, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, Mannau Lleol ar gyfer Natur, Rhaglen Gyfalaf Dŵr CNC, ac Ymddiriedolaeth Menter Teulu Wates. 🎥 Gwyliwch y fideo i weld sut y llwyddodd y prosiect cydweithio hwn i leddfu’r llif.