У нас вы можете посмотреть бесплатно Cynllun Gwasanaethau Clinigol – Newidiadau i Endosgopi или скачать в максимальном доступном качестве, видео которое было загружено на ютуб. Для загрузки выберите вариант из формы ниже:
Если кнопки скачивания не
загрузились
НАЖМИТЕ ЗДЕСЬ или обновите страницу
Если возникают проблемы со скачиванием видео, пожалуйста напишите в поддержку по адресу внизу
страницы.
Спасибо за использование сервиса ClipSaver.ru
Beth yw Endosgopi? Mae endosgopi yn weithdrefn a ddefnyddir i edrych y tu mewn i'r corff. Ar gyfer cleifion dros 16 oed, mae gweithdrefn endosgopi yn archwilio y tu mewn i organ neu geudod gwag. Pam mae angen i Endosgopi newid? Yn Hywel Dda, mae endosgopi yn gweithredu o Bronglais, Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg. Y prif faterion sy'n effeithio ar ein gwasanaeth endosgopi yw galw cynyddol ac anawsterau wrth benodi digon o staff endosgopi i ddarparu gwasanaethau ar draws llawer o safleoedd. Os nad ydym yn cynyddu gweithgarwch, bydd rhestrau aros ar gyfer cleifion yn mynd yn hirach. Beth oedd penderfyniad y Bwrdd? Dewisodd ein Bwrdd Opsiwn A o'n hymgynghoriad. Pan gaiff ei weithredu, bydd hyn yn dod â gweithdrefnau endosgopi anadlol ac wroleg ynghyd yn Ysbyty Tywysog Philip. Bydd gweithdrefnau sgrinio gastroberfeddol, neu stumog a choluddyn yn dal i fod ar gael ym mhob safle ysbyty. Nod hyn yw helpu i fynd i'r afael â'r cynnydd disgwyliedig yn y galw am y gwasanaethau hyn yn y dyfodol a bydd yn cefnogi datblygiad uned ymchwilio wrolegol yn Ysbyty Tywysog Philip. Cytunodd y Bwrdd hefyd i archwilio opsiynau ar gyfer gwasanaeth endosgopi cymunedol, gan gydnabod y bydd angen ymgysylltu ychwanegol ag aelodau o'n cymuned ar adeg briodol. Sut fydd hyn o fudd i gleifion? O dan y penderfyniad hwn, byddai ystafell weithdrefnau ychwanegol yn Ysbyty Tywysog Philip i ganiatáu i fwy o bobl gael mynediad at weithdrefnau diagnostig a chael eu profion yn gynt. Ni fyddai unrhyw newidiadau i'r gwasanaeth sgrinio coluddyn presennol nac endosgopi brys ar draws safleoedd ysbytai eraill. Bydd hyn yn ein galluogi i gyflawni'r achrediad priodol sy'n sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth diogel ac o safon. Penderfynodd y Bwrdd y byddai'n hoffi archwilio sut y gellid cynnal rhai profion endosgopi yn y gymuned, sy'n golygu cael y gwasanaeth yn nes at ble mae pobl yn byw. Bydd angen mwy o waith i weld sut a ble y gellid darparu hyn a byddwn yn eich cynnwys yn y penderfyniadau hyn yn nes ymlaen. Beth sy'n digwydd nesaf? Dros y misoedd nesaf, byddwn yn datblygu ein cynlluniau gweithredu ar gyfer y newid gwasanaeth hwn. Byddwn yn cyfathrebu â'n cleifion a'n cymunedau cyn i unrhyw newidiadau gael eu gwneud. Yn y cyfamser, bydd ein cleifion yn parhau i gael mynediad at wasanaethau endosgopi yn yr un ffordd â maen nhw’n gwneud nawr. Rydym yn gwybod y gallai'r newid hwn olygu y bydd angen i rai cleifion deithio ymhellach i gael mynediad at ofal – ond rydym wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda'n staff a'n cymunedau. Rydyn ni eisiau i bawb gael y gofal gorau posib, a hynny yn y lle mwyaf diogel. Yn fyr... Dyma fydd y drefn ar gyfer gwasanaethau Endosgopi: • Bydd endosgopi anadlol ac wroleg yn cael eu dwyn ynghyd yn Ysbyty Tywysog Philip • Bydd profion sgrinio'r stumog a'r coluddyn yn dal i fod ar gael ym mhob ysbyty • Byddwn yn datblygu lle ychwanegol yn Tywysog Philip i'n helpu i weld mwy o gleifion • Byddwn yn archwilio sut y gallwn ddarparu clinigau endosgopi yn ein cymuned yn y dyfodol • Bydd gofal yn fwy diogel ac yn gryfach ar gyfer y dyfodol